O Frenhin mawr tragwyddol cun

O! Frenhin mawr tragwyddol cun,
Wyt oll yn oll, wyt oll yn un;
  Rho imi wel'd dy hyfryd wedd -
  Ni cheisiaf fwy
      tu yma i'r bedd.

Nef yw i'm henaid yn mhob man,
Pan brofwyf Iesu mawr yn rhan;
  Ei weled Ef â golwg ffydd
  Dry'r dywell nos
      yn oleu ddydd.

Boed imi dreulio'm dyddiau i gyd
I edrych ar dy wyneb pryd:
  Difyru f'oes o awr i awr
  I garu fy Ngwaredwr mawr.
Emynau ... yr Eglwys (Daniel Evans) 1883

[Mesur: MH 8888]

gwelir:
  Dyma gyfarfod hyfryd iawn
  Mor hardd mor deg mor hyfryd yw
  Nef yw i'm henaid yn mhob man
  O n'allwn g'odi'm henaid gwàn

Thou art all the same;
O dear, great, eternal King,
  Grant me to see Thy lovely face,
  I will not seek more
      on this side of the grave.

There is heaven to my soul in every place,
When I experience great Jesus as a portion;
  To see Him with the sight of faith
  Turns the darkness of night
      into the light of day.

My I spend all my days
In looking on thy countenance:
  It will engage my age from hour to hour
  To love my great Deliverer.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~